Cwm Taf Morgannwg Regional WCCIS

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys sydd i'w weld ar barth www.ctm-wccis.co.uk. Bydd gan unrhyw wefannau eraill rydyn ni'n eu rheoli eu datganiad hygyrchedd eu hunain.

Carfan Rhanbarthol System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC) Cwm Taf Morgannwg (CTM) sy'n gweithredu'r wefan yma. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl gallu defnyddio'r wefan yma.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylai bod modd i chi wneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall, a
  • mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gyda chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • dydy fformatau PDF na dogfennau ddim yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin
  • dydy'r cynnwys a'r modd llywio gan gyflenwyr trydydd parti ddim yn gwbl hygyrch
  • fydd y testun ddim yn ail-lenwi mewn un golofn pan fyddwch chi'n newid maint ffenestr y porwr, a
  • does dim modd addasu uchder llinellau na bylchau testun.

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Bydd angen i ni wybod:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw
  • cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post, a
  • y fformat sydd ei angen arnoch chi

Byddwn ni'n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n cwrdd â'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy:

Bydd angen i ni wybod:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw
  • cyfeiriad e-bost, a
  • manylion am y broblem.

Byddwn ni'n ymchwilio i'r broblem ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon ar sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar gyfer Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu galw heibio wyneb-yn-wyneb

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.  Dyma'r rhif: 01685 870111. 01443 425005.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, bydd modd inni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer chi.  Wrth drefnu eich apwyntiad, byddwn ni'n gofyn a oes gyda chi unrhyw ofynion arbennig.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni'n bwriadu nodi a thrwsio problemau cyn gynted â phosibl. Mae'r amserlenni ar gyfer trwsio pob problem wedi'u rhestri yn yr adran berthnasol uchod.

Rydyn ni hefyd yn cysylltu â'n cyflenwyr lle nad oes modd i ni ddatrys unrhyw broblemau ein hunain.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad yma'i baratoi ar 25/09/2020.  Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30/09/2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 29/09/2021. Caiff y prawf ei gynnal gan Staff RhCT gan ddefnyddio'r Offeryn Hygyrchedd 'Silktide'. Rydyn ni hefyd yn profi rhai tudalennau â llaw gan

ddefnyddio Axe a phrofi â llaw i ddod o hyd i broblemau nad oes modd i'r offer eu nodi.

Tudalennau yn yr Adran Hon